
Band electroneg amgen enigmatig o Lundain yw holybones, sy’n cynnwys gair llafar, synau ail law a riffiau dawns – mae eu cerddoriaeth yn siarad am obeithion a datgysylltiad bod yn oedolyn ifanc mewn dinas fawr. Yn gwbl hunangynhwysol o ran y cyfansoddi, y cynhyrchu a’u bydysawd greadigol – nhw sy’n creu’r holl gerddoriaeth, y ffotograffiaeth a’r delweddau. Maen nhw’n anelu i fod yn ffres, amgen, amrwd, DIY, melodig. Mae cydweithrediadau diweddar yn cynnwys Jasper Tygner a Stresshead.
Roedd eu sengl ddiweddaraf yn cynnwys yr unigryw Baxter Dury. Ac mewn blwyddyn fawr i Holy Bones, byddan nhw’n galw heibio i Sŵn hefyd.
I’r rhai sy’n hoff o: Dummy, Baxter Dury, Fat White Family
