
Fe wnaeth Harry Jowett hunan-gynhyrchu ei sengl gyntaf yn ei stafell wely yn ystod y cyfnod clo. Ers hynny, mae’r artist sy’n byw yn Llundain ar ôl cael ei fagu yng Nghaerdydd wedi rhyddhau rhes o senglau cryf ac EP yn 2024 dan yr enw ‘Disillusioned’. Gan gynnig sain neo-enaid, byddwch chi’n clywed sacsoffon yn aml yn ei waith, ond daw hynny gyda’i allu i feistrioli llif hip-hop.
Mae’n hawdd clywed bod Jowett wedi cael ei ddylanwadu gan fawrion hip-hop fel MF DOOM a J Dilla. Mae naws heulog i’w ganeuon yn aml iawn, wedi’u llenwi’n naturiol ag optimistiaeth.
Dewch i ymlacio yn set Harry Jowett yn Sŵn.
I’r rhai sy’n hoff o: Corto. Alto, Ezra Collective, Nubya Garcia
