
Wedi dod at ei gilydd yng nghanol dinas Dulyn ar anterth y pandemig, bu’r pumawd yn gweithio’n ddiwyd ar eu sain am flwyddyn a hanner cyn chwarae’u gig cyntaf. Pedair blynedd ers hynny, maen nhw wedi sefydlu eu hunain fel un o hoelion wyth sîn Punk balch Iwerddon. Does dim lle i’r gwangalon yng ngherddoriaeth Gurriers; mae’r sain yn cael ei fwydo gan ddicter at yr eglwys Gatholig, clybiau nos a phopeth yn y canol. Os wyt ti’n hoff o sefyll yn llonydd efo dy freichiau wedi’u croesi mewn gig, efallai mai nid rhain yw’r band i ti.
