
Gyda Guto Price (Super Furry Animals) a Lindsey Leven yn lleiswyr, mae cerddoriaeth Gulp wedi’i hadeiladu ar optimistiaeth mewn pop, gan geisio ymbellhau mor bell â phosib o sinigiaeth a negyddiaeth y byd. Mae cyflawni sain Pop-Gofod-Seicadelig yn dipyn o gamp, a dim ond band â cherddorion mor fedrus â hyn fyddai’n gallu. Maen nhw’n datblygu eu sain ar eu record newydd ‘Beneath Strawberry Moons’, gan fynd ar hyd trywydd mwy gwerinol, sy’n arwain at record â’i thraed ar y ddaear.
