
Does dim angen cyflwyniad ar Gruff, gyda llawer yn ei ystyried yn un o fawrion byd cyfansoddi Cymru. O fod yn ganwr i’r band chwedlonol Super Furry Animals i’w yrfa unigol nodedig, mae cerddoriaeth Gruff wedi parhau i fod yn efelychiad un-i-un o ddiwylliant modern Cymru. Mae’r thema yma i’w gweld drwy gydol ei albwm newydd ‘Dim Probs’, lle mae Gruff yn cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth electronig ei ieuenctid yn yr wythdegau i wneud synnwyr o fywyd modern llwm, gyda’r ffraethineb a’r swyn aneglur nodweddiadol sy’n gwneud ei gerddoriaeth mor eiconig. Dydy Gruff heb chwarae yn Sŵn ers 2019, pan gloiodd y noson yn y Tramshed, felly mae’n sicr y bydd ei set eleni yn un brysur – ac yn siŵr o’ch swyno.
