
Wedi’u ffurfio drwy joinmyband.com yn ddigon rhyfeddol, mae’r triawd yma o Sbaen/Califfornia/Llundain yn creu cerddoriaeth gitâr fywiog debyg i Sonic Youth, gydag ysbrydoliaeth y nawdegau’n graidd i’r gerddoriaeth. Mae pyllau o bedalau effaith a lleisiau araf a melancolaidd yn helpu green star i syrffio drwy ieuenctid a symud i’r ddinas fawr yn eu cerddoriaeth. Mae’n ddiwydiannol ei naws wrth i’r triawd ganfod harddwch yn nhrallod bodolaeth fodern. Dyma un o fandiau mwyaf cyffrous Llundain ar hyn o bryd, ac mae hi’n sicr yn werth dal set green star.
