
Yn llawn nodweddion Emo ac mor dywyll â’u henw, mae’r band Graywave o Birmingham yn creu cerddoriaeth sy’n troedio rhwng shoegaze breuddwydiol ac emo trwm hunllefus. Mae eu halbwm diweddaraf ‘Dancing in the Dust’ yn eich cadw ar flaenau’ch traed, gydag offerynnau trothwyol yn eich cario drwy eu geiriau tywyll. Yn berffaith ar gyfer stafell dywyll, ac yn haeddu cynulleidfa astud, rwy’n argymell eu set os ydych chi’n hoff o amsugno’r sain i gyd, gan fod y Brummies yma’n gwneud yn union hynny.
