
Pan adawodd Louise McGraw ei band Skjør, mentrodd i Wlad yr Iâ i ddod o hyd i fath newydd o ysbrydoliaeth. Pan ddychwelodd, ganwyd Goodnight Louisa. Yn gymysgedd o synth a ffync wedi’i ysbrydoli gan Daughter a St Vincent, mae albwm newydd Louisa’n gwbl wahanol i ddim un o’i phrosiectau blaenorol, ac yn gam enfawr ymlaen ar bob lefel. Mae hon yn sicr o fod yn set gynnil fendigedig, peidiwch â’i methu.
