
Mae Good Health, Good Wealth yn fand sy’n defnyddio synau The Streets, Gorillaz ac Ian Drury i greu caneuon hynod delynegol. Gallwch weld eu bod yn ffans enfawr o artistiaid hip-hop clasurol, sydd i’w glywed yn y llif lleisiol sy’n dominyddu eu caneuon, gyda theimlad ymlaciol y byddai Mike Skinner yn falch ohono.
Fe wnaethon nhw ryddhau eu halbwm cyntaf ‘This Time Next Year We’ll Be Millionaires’ ym mis Tachwedd 2025, ac maen nhw wedi rhyddhau rhes doreithiog o senglau ers hynny. Mae’r ddeuawd yn hyrwyddo moeseg dros wleidyddiaeth, gan geisio rhannu negeseuon cadarnhaol.
Rydyn ni’n edrych ’mlaen at gael ein hysbrydoli gan y grŵp yn ystod eu set yn Sŵn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: The Streets, Gorillaz, Skepta
