
Mae Getdown Services, band sydd ar flaen tafod pob tad 6-Music ac sy’n galw’u hunain yn “Fand Gorau Prydain”, wedi curo’r Pier a’r Amgueddfa Hofrenyddion fel y peth gorau am Weston Super-Mare. Mae’r ddeuawd wedi canfod y rysáit berffaith o sgwrs ddiwylliannol alawol ac offeryniaeth ddawns, sy’n dadlau eu hachos taw nhw yw’r band gorau ar y sîn. Os nad hynny, rydyn ni’n siŵr y byddwch chi’n mwynhau eu hits digon anarferol, “Get Back Jamie” a “Dog Dribble”.
