
Mae Georgia, sydd wedi cydweithio gyda’r Manic Street Preachers ac ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eisoes, yn dychwelyd i’r brifddinas ar ôl rhyddhau ei phedwerydd albwm ‘Cool Head’, sydd wedi’i ddylanwadu gan Americana a chyngor doeth ei thad. Mae hi’n arwres ddiamheuol yn sîn cerddoriaeth amgen Cymru, ac mae ei sain crefftus wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ers blynyddoedd lawer. Bydd ei set yn Sŵn yn un i’w chofio.
