
Mae Foot Foot o Fryste yn adnabyddus am eu sain arbrofol llawn mynegiant. Llynedd, fe ryddhaon nhw eu halbwm gyntaf ‘Still Waters, Empty House’. Mae’r caneuon yn pendilio rhwng gwerin iasol a brawychus ac ôl-roc a math-roc, sy’n cynnig profiad hypnotig wrth eu gwylio. Dyma un o fandiau mwyaf cyffrous sîn danddaearol Bryste, ac maen nhw wedi creu tipyn o argraff gyda’u gallu i symud o lonyddwch tawel ac ysgafn i rythmau cyflym. Fyddwch chi byth yn siŵr beth sy’n dod nesa.
Allwn ni ddim aros i weld Foot Foot yn Sŵn eleni, gydag un o setiau mwya unigryw’r ŵyl.
I’r rhai sy’n hoff o: Man/Woman/Chainsaw, Black Country, New Road, Mary In The Junkyard
