Fat Dog
Mae Fat Dog yn fand sydd ar restr gwylio pawb. Am fand sydd heb ryddhau unrhyw gerddoriaeth, maen nhw wedi llwyddo i werthu allan sioe ôl sioe, ar ôl sioe, ar ôl sioe yn Llundain. Mae eu egni yn drydanol, yn ôl pob sôn, gyda thorfeydd – rywsut – yn cyd-ganu bron bob gair! Wedi’u cymharu â bandiau ôl-pync eraill fel The Fat White Family, The Black Lips a Viagra Boys (buont yn eu cefnogi ar eu taith yn y DU), a gyda hanesion am sioeau anhrefnus, chwyslyd, llawn rhegfeydd, a torf-syrffio, mae un peth yn sicr…mae Fat Dog yn fand dydych chi ddim eisiau methu.