
Mae Esmeralda Road yn rhan o don newydd o fandiau indi sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd, gan gynnwys The North a Cherryholt. Mae gan y band o Felffast ddigon o brofiad yn barod, wedi cefnogi Paul Weller, Liam Gallagher, Primal Scream a Basht.
Enillodd eu sengl gyntaf ‘To U’ Wobr Gerddoriaeth Gogledd Iwerddon yn 2023 a dydyn nhw heb edrych ’nôl ers hynny. Mae eu momentwm yn debygol o barhau yn 2026; maen nhw eisoes wedi bod ar daith o amgylch gwledydd Prydain/Iwerddon yn y gwanwyn ac yn barod i chwarae mewn mwy o wyliau, gan gynnwys Sŵn!
Rydyn ni’n edrych ’mlaen i weld am beth mae’r holl sôn yn yr ŵyl eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: Cherryholt, Bleach 9:3, Tooth
