
Ar ôl symud i brifddinas Cymru o Sweden, dechreuodd Elina Lee gyfuno R&B gyda Neo Soul i greu cerddoriaeth mae’n dweud sy’n “berffaith wrth yrru gyda’r hwyr”. Gyda theithiau ei phlentyndod ar y Subway yn Stockholm yn ddylanwad ar ei chyfansoddi, mae Lee wedi perffeithio’r ddelweddaeth ddinesig yn ei thraciau, gan gynnwys yn ei sengl gyntaf ‘Deja Vu’.
