Elanor Moss
Mae Elanor Moss yn un o gyfansoddwyr caneuon mwyaf cyffroes sy’n dod i’r amlwg ym Mhrydain. Daeth ei cherddoriaeth o hyd i’w ffordd i Blue Raincoat Music (Phoebe Bridgers, Christian Lee Hutson, Arlo Parks) a ddechreuodd weithio’n fuan wedi hynny gyda Moss ar ei EP cyntaf ‘Citrus’. Ers ei rhyddhau mae hi wedi cael ei chanmol gan 6 Music, ac wedi teithio gyda Christtian Lee Hutson, Benjamin Francis Leftwich, a Cassandra Jenkins, a nawr, mae hi’n dod â’i sain hypnotig hardd i Sŵn!