
Yn dilyn taith yn cefnogi Geese o amgylch America, mae Dove Ellis wedi gwneud enw go iawn iddo’i hun mewn cyfnod byr iawn.
Er ei fod yn ymddangos yn dipyn o gymeriad tawel, sydd heb roi llawer o gyfweliadau, mae’r gerddoriaeth yn gwneud digon o siarad dros ei hun. Glaniodd ei albwm cyntaf, Blizzard, fis Rhagfyr. Record sy’n eistedd rywle ar gyrion gwerin hiraethus, wedi’i gynhyrchu’n grefftus.
Mae’r sioe fyw yr un mor amrywiol a phen-agored a’i ganeuon: yn wyllt un funud, yn freichiau-yn-yr-awyr, ac yna’n greulon o drist dro arall. Mae Blizzard wedi enyn canmoliaeth mawr gan The Guardian, NME a Pitchfork.
Bydd Dove yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 17 Hydref, yn agor y noson yn Tramshed.
