
Wedi’u bragu â dirgelwch a sglein Ôl-Pync, mae’r band o bump o Bedford, a ddechreuodd drwy eu jams stafell wely, yn creu sain sy’n eich hudo. Mae’r EP gyntaf, a fyddai’n drac sain perffaith i ffilm ddirgel, yn iasol ar adegau ac o ansawdd uchel drwyddi draw. Mae’r uchelgais gerddorol ar y traciau ‘40 Winks to Wyoming’ a ‘Return the Day’ yn profi bwriad clir Dog Race i gyrraedd brig y sîn indi, felly taswn i’n chi, bysen i’n mynd i’w gwylio nhw nawr i chi gael brolio am y peth mewn blynyddoedd i ddod.
