
Yn gynharach eleni, cawson ni’r cipolwg cyntaf go iawn i fyd Dermot Henry. Rhyddhaodd y cyfansoddwr o Wiltshire ei EP gyntaf ‘Aiming Torches At The Sun’ ym mis Mai, gan ein cyflwyno i’w sain hynod wresog a hiraethus. Mae wedi’i arwyddo i Action Records, a recordiodd yr EP gyda Dom Monks, sydd wedi gweithio gydag enwau fel Michael Kiwanuka a Laura Marling.
Gyda rhai o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd y byd cerddoriaeth, fel Bob Dylan a Jeff Buckley, yn ysbrydoliaeth, mae Henry eisoes wedi sefydlu estheteg hynod afaelgar sy’n eistedd ym myd gwerin a phop melodig.
Gwyliwch un o actau newydd mwya’r byd indi gwerin yn Sŵn yn yr hydref!
I’r rhai sy’n hoff o: Dove Ellis, Jacob Alon, Westside Cowboy
