
Mae’n debygol y byddwch chi’n nabod Dana Margolin fel prif leisydd Porridge Radio, band a ddaeth i’r amlwg yng nghanol y 2010au ac a gafodd enwebiad am wobr Mercury. Bellach, mae Margolin wedi penderfynu troedio ei llwybr ei hunan, ar ôl i’r band ddod i ben yn 2025.
Dim ond newydd ddechrau ei thaith unigol mae Margolin, ac felly does dim cerddoriaeth wedi’i rhyddhau ganddi drwy’r prosiect eto, ond mae hi wedi bod yn profi’r gwaith mewn gigs bach a gyda slot yn cefnogi Ezra Furman. Mae’n gyfansoddwraig ac yn lleisydd o fri, ac mae ei gwaith diweddaraf yn sicr o gyffwrdd â’r galon.
Rydyn ni’n edrych ’mlaen i glywed beth mae hi wedi bod yn ei baratoi, wrth i ganeuon newydd Margolin gael eu chwarae am y tro cyntaf yng Nghymru yng Ngŵyl Sŵn.
I’r rhai sy’n hoff o: Ezra Furman, Goat Girl, Aldous Harding
