
Yn y man canol rhwng y Beach Boys ac Iwan Llwyd, mae Cyn Cwsg wedi datgan eu bodolaeth yn llawn gyda rhyddhau eu EP gyntaf ‘Pydru yn yr Haul’, a recordiwyd gyda Tom Rees o Buzzard Buzzard Buzzard. Gyda rhai o’r synau gitâr mwyaf moethus ar y sîn, sy’n dwyn i gof sain indi’r 2010au, mae Cyn Cwsg yn fand hawdd ei hoffi; yn cŵl i’r carn ac yn wirioneddol wych.
