
Mae’r efeilliaid yma o Glasgow yn mynd â gitârs garw ac yn eu gweithio o gwmpas harmonïau moethus ac alawon yn arddull y nawdegau i greu sain sydd wedi denu cefnogaeth gan Mogwai a PJ Harvey. Mae eu halbwm ddiweddar ‘Pink Silence’ yn taclo gwersi mawr bywyd gyda chalon a synau gitâr mwy fyth, gan ganfod ffyrdd unigryw o fanteisio ar bob cornel o’u celfyddyd.
