
Gan gyfuno cerddoriaeth werin felys storïol gyda’i phrofiadau yng nghefn gwlad Ffrainc a Lloegr, mae perfformio’n ail natur i Clara Mann, ac mae ei cherddoriaeth yn daith dyner drwy harddwch ieuenctid a’r rhes o emosiynau dryslyd sy’n rhan o hynny. Mae ei sesiwn Factory State51 yn cyfleu hyn yn berffaith, gan gynnig cipolwg ardderchog o’r hyn all Clara ei gynnig mewn gofod byw. I’r rhai sy’n hoff o hiraethu, mae Clara Mann yn act hanfodol i’w gweld.
