Cerys Hafana
Mae Cerys Hafana yn aml-offerynnwr sy’n ‘mangleirio, yn treiglo ac yn trawsnewid’ cerddoriaeth draddodiadol Gymreig gyda’i defnydd creadigol o’r delyn deires, synau a ddarganfuwyd, deunyddiau archifol a phrosesu electronig; gan wylltio puryddion gwerin Cymreig ar hyd y daith. Bydd ei cherddoriaeth yn eich gadael yn fyr eich gwynt, yn gwenu ac yn dymuno bod yn gorwedd ar ben mynydd yn Eryri yn syllu i’r sêr.