
Fel seren bop fwyaf disglair Caernarfon, mae Catty yn uno ei chariad at gerddoriaeth llawn bachau trawiadol a phontydd dwys gyda’i bywyd serch cymharol gymhleth, i greu pop cwiar a threndi sy’n gwbl rhagorol. Ar ôl dod o hyd i’w thraed yn Llundain, mae sengl ddiweddar Catty ‘Joyride’ yn dangos ei doniau diguro i gydbwyso ei thraciau i fod mor gathartig a pherthnasol â phosib. Mae hi’n cynnig sioe a hanner hefyd, a gyda’i hanes o werthu pob tocyn mewn chwarter awr, well i chi fachu ar y cyfle yma i weld Catty yn Sŵn ’25 cyn iddi fod yn anoddach byth ei dal.
