
Gan ledaenu’n dawel drwy sîn lawr gwlad Caerdydd, mae’r criw yma o bedwar eisoes wedi dod yn un o fandiau mwyaf nodedig y ddinas; gan greu cynnwrf organig drwy werthu pob tocyn i ddau gig yng Nghlwb Ifor Bach a gyda thaith fawreddog yn cefnogi un o gyn-fandiau Sŵn, Porridge Radio. Gyda sîn Ôl-Roc Llundain yn ddylanwad, ac emosiwn magwraeth yng Nghaerdydd yn sylfaen, mae eu trac diweddaraf “cranes” yn destament i’r profiad hwnnw, a bydd eu gig yn Sŵn yn gam mawr i’r band ac yn sioe na ddylech ei methu.
