
Yn hanu o Fangor, mae gyrfa Casi wedi cynnwys gwaith cerddorol yn cael ei berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a Sinfonia Cymru yn fwy diweddar. Yn Fardd Plant Cymru gynt, mae hi wedi syfrdanu gyda’i llais cwbl drawiadol, ac ar ôl canu’n ddwyieithog yn gynt yn ei gyrfa, mae hi bellach yn cynhyrchu gwaith uniaith Gymraeg.
Ei gwaith diweddaraf yw ei halbwm gyntaf ‘Plentyn yr Haul’, a ryddhawyd ym mis Mawrth. Arni roedd cyweithiau gyda Siân James, Gareth Bonello, Tecwyn Ifan a mwy. Mae’n gasgliad o ganeuon sy’n hardd ac yn farddonol.
Byddwn ni’n cael ein swyno’n llwyr gan harddwch nefolaidd caneuon Casi yn Sŵn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: Mared, Cate Le Bon, Angel Olsen
