
Os nad oeddech chi’n gwybod taw o Norwich roedd Brown Horse yn dod, efallai y byddech chi’n credu mai hen grŵp o America sydd wedi perfformio ochr yn ochr â Neil Young oedden nhw, gan fod eu cerddoriaeth yn orlawn o’r dylanwad roc-gwlad hiraethus melys yna, ac yn creu sain newydd a gwreiddiol sy’n unigryw i’r band. Mae eu halbwm ‘All The Right Weaknesses’, gyda thraciau fel “Dog Race”, yn destament i hyn, ac mae’r trac olaf anhygoel “Far Off Places” yn berffaith ar gyfer taith ffordd mewn RV. Rhaid i chi i ddal eu set, ac fe gewch chi bwynt ychwanegol os wisgwch chi het gowboi!
