
A’r band o chwech newydd ryddhau eu halbwm newydd “Y Dwylo Uwchben”, bydd y criw o Gaerdydd yn dod â’u cerddoriaeth Ôl-Emo ddwys ’nôl i Sŵn gyda set afaelgar. Yn addas ar gyfer gig tanddaearol mewn coleg Americanaidd, neu yng nghanol cylch o gerrig yng nghefn gwlad, mae Breichiau Hir yn uno elfennau garw cerddoriaeth roc gydag alaw angerddol i greu sain syfrdanol sydd heb ei debyg yma yng Nghaerdydd. Maen nhw’n destament i botensial y sîn gerddoriaeth leol, a bydd y set yma’n werth ei gweld os ydych chi awydd darganfod yr uchelfannau cerddorol maen nhw’n eu cyrraedd.
