
Mae’r pŵer-rocwyr o Gaerwysg yn dal i fod ar gamau cynnar eu bodolaeth, ond yn disgleirio â hiraeth y nawdegau gan greu cerddoriaeth sy’n dwyn i gof gerddoriaeth REM ac MJ Lenderman. Mae ‘Problems’, eu sengl gyntaf, yn berffaith ar gyfer gwibio ar hyd ffordd hir drwy America. Mae’n sain ffres sydd wedi’i chrefftio’n gywrain gan y criw. Gŵyl Sŵn fydd eu gig cyntaf yng Nghymru. Mae hynny’n ddigon o reswm i alw heibio i glywed eu set.
