
Prosiect Cai Burns, sy’n dod o Nottingham ond yn byw yn ne Llundain, yw Blood Wizard. Ar ôl rhyddhau ei albwm gyntaf ‘Western Spaghetti’ yn 2021, mae’r prosiect bellach wedi tyfu o fod yn brosiect unigol i fod â band llawn. Bellach yn ymuno â Cai mae’r aelodau Faye Rita Robinson, Sebastian Buestone ac Adrian Vitelleschi Cook. Yn 2024, rhyddhawyd ail albwm Blood Wizard, ‘Grinning William’.
Yn fwy diweddar, maen nhw wedi dychwelyd gydag EP newydd ‘Lucky Life’. Yn arwydd o esblygiad y band, maen nhw’n fwy hyderus nag erioed, gyda sain indi melodig sy’n dwyn i gof sîn amgen Americanaidd y nawdegau. Mae caneuon fel ‘Lick The Big Star’ yn adeiladu gyda melodïau ewfforig cyn eich taro â riffs trwm.
Mae Blood Wizard wedi blodeuo, ac allwn ni ddim aros i’w croesawu i Sŵn eleni, lle byddan nhw’n ein swyno gyda disgleirdeb eu roc amgen.
I’r rhai sy’n hoff o: Smashing Pumpkins, Pavement, Momma
