
Mae Seth Booth a Lacey Rouge yn defnyddio’u hits synthaidd slebogaidd, geiriau ffasiynol, ac yn bwysicaf oll, eu peiriant swigod i hawlio’u teitl fel un o ddeuawdau anwylaf Caerdydd. Mae’r lefel o optimistiaeth barhaus a’r estheteg ddisglair mor ddwys nes eu bod yn amhosib o hoffus, a hynny wedi’i gefnogi gan hits ysgafn fel ‘Hot Summer Daze’ a ‘Late Night Menu’. Mae’r ddeuawd hynod yma’n cynnig llwyth o hwyl, os mai hynny sy’n mynd â’ch bryd yn Sŵn ’25.
