
Yn Roc a Rôl yn ei wir ystyr, mae Basht yn enw arall o sîn amgen brysur Iwerddon. Gan gymryd pethau i lefel ychydig yn fwy traddodiadol, mae EP ddiweddar y pedwar, ‘Bitter and Twisted’ wedi’i hadeiladu ar riffs deniadol a lleisiau grynji, gyda chaneuon fel ‘Vain’ yn cynnig y trac perffaith i gael ei weiddi gan fôr o gefnogwyr brwd. Ar ôl chwarae slotiau cefnogi gyda bandiau fel Wunderhorse a Been Stellar, mae Basht yn argoeli i fod yn fand roc blaenllaw.
