
Ar ôl dechrau eto gydag enw newydd sbon yn ddiweddar, mae’r criw o Ferthyr wedi bod yn rym pwerus yn sîn gerddoriaeth Cymru, gyda gigs di-ri ac EP gyntaf wedi’i rhyddhau. Mae eu cerddoriaeth roc angerddol yn agos at fod yn hardcore, diolch i’r geiriau llawn rhwystredigaeth a’r offeryniaeth ddwys sydd i’w chlywed yma. Mae’r rhain yn siŵr o gynnig uffern o amser da, felly peidiwch â’u diystyru.
