
Rydyn ni’n falch o groesawu’r Bambees ’nôl i Sŵn am yr eildro. Ffurfiwyd y band ym Merthyr Tudful, ac mae dycnwch Cymru ôl-ddiwydiannol yn llenwi eu sain. Dyma sain sy’n sicr o blesio ffans cerddoriaeth trwm, ac maen nhw’n gwybod sut i wneud i’w riffs gitâr daro gydag effaith anferthol.
Gyda egni anorchfygol, mae eu harddull nhw o roc amgen yn arw ac yn danbaid. Mae’r pum ffrind agos yn gwybod sut i wneud i stafell rocio, a dyma set fydd yn creu tipyn o sŵn yn yr ŵyl eleni.
Dewch lawr i Ŵyl Sŵn eleni i glywed sŵn eang Bambees.
I’r rhai sy’n hoff o: Lady Garden, IDLES, Soft Play
