
Dros gyfnod o bum mlynedd, mae Babymorroco wedi defnyddio’i olwg drawiadol a phop-slebogaidd hunanobsesiynol i ddod yn rhyw fath o ffenomen ddiwylliannol. Gyda hunaniaeth rywiol gref a siâp corff cryfach byth, mae Babymorroco’n disgleirio fel perfformiwr â phresenoldeb llwyfan crefftus, sy’n dwysáu ei hits pop hiraethus; dyma fydd un o’r actiau mwyaf cofiadwy ar y rhaglen. Mae digon i’w ddweud am Babymorroco, ond allai geiriau ddim siarad yn uwch na’i weld yn fyw yn y cnawd – bydd yn brofiad syfrdanol o hwyliog.
