
Mae’r ddeuawd Rap Chicago arbrofol-diwydiannol-afreolus, Angry Blackmen, wedi dod yn rhyw fath o ffenomen niche. Maen nhw’n rhannu label â Death Grips, ac mae eu cynnig eclectig ar y genre wedi denu tipyn o gefnogaeth gwltaidd, gan ennill enw da am gerddoriaeth fyw danbaid gyda’u gallu crefftus a’u mynegiant o’u dicter dwfn.
