
Yn un o’r bandiau poethaf yn Llundain ar hyn o bryd, mae Ain’t wedi creu tipyn o enw iddyn nhw’u hunain ar ôl chwarae sioeau arddangos i Rough Trade a So Young Magazine, yn ogystal â gweithio gyda’r cynhyrchydd clodwiw Theo Verney (English Teacher, Lime Garden). Mae Ain’t yn chwarae ar Hiraeth Gitâr y nawdegau, gydag ychydig o ôl-pync a shoegaze yn gwneud ymddangosiad yn eu caneuon hefyd. Mae’r sengl ddwbl ddiweddar ‘Pirrouete/Jude’ yn mynegi eu sain i’r eithaf, gyda bron i saith munud yn llawn dop o lics twt a riffs bachog. Fyddwch chi’n cicio’ch hunan os methwch chi’r rhain yn Sŵn ’25.
