
Mae’r band yma o Leeds, sydd wedi cael eu hyrwyddo gan Bill Murray, yn anodd eu diffinio; maen nhw’n cyfuno elfennau synth pop gyda churiadau tebyg i ddrwm a bas, i greu sain a fyddai’n addas mewn arcêd yn Arizona yn yr wythdegau neu mewn lleoliad cerddoriaeth hip lleol (digon tebyg i leoliadau niferus Sŵn!). Mae eu cerddoriaeth yn llawn hwyl, gan edrych am yn ôl ac edrych ymlaen at ddyfodol synth pop. Beth mwy sydd i’w ddweud? Maen nhw’n cynnig y gorau o sawl byd, ac amser da i bawb.
