
Yn hanu o Sblot, mae cymysgedd fynegiannol Adjua o R&B wedi gwneud marc amlwg ar y sîn yng Nghymru ers iddi ddechrau yn 2021. Gyda’i threftadaeth Ghanaidd yn ysbrydoliaeth, mae llais Adjua’n plethu’n berffaith â’i geiriau gwleidyddol, gan greu traciau llawn mynegiant fel ‘Is it Ending or Beginning’ a’i sengl ddiweddar ‘Clarity’. Mae Adjua eisoes wedi chwarae yn Glastonbury, ac mae hi’n sicr yn artist i gadw llygad arni.
