
Mae’r band newydd yma o Lundain fel petaen nhw wedi camu’n syth o beiriant amser, gyda’u Pop-Tywyll iasol sy’n byrlymu â dylanwad synths yr wythdegau. Ar ôl ymuno â label nodedig Nettwerk o Lundain, mae ATMT wedi bod yn rhannu caneuon a fyddai’n ddigon addas i nosweithiau enwog clwb Batcave. Mae eu senglau diweddar – ‘She’s on the Run’ a ‘Wide Awake’ – yn ddatganiad o fwriad, ac mae gan ATMT y potensial i fod yn drac sain i genhedlaeth newydd o goths.
