
Prosiect ochr Marina Thompson o “The Garden” yw 3L3D3P (sy’n cael ei ynganu fel ‘LDP’), ac mae’n archwiliad dewr o sŵn yn ei holl ffurfiau. Ar adegau, byddwch chi’n cwestiynu am ba genre mae Marina’n anelu, gan ei bod yn cyffwrdd â sawl un – EDM, Hip Hop, Glitch Pop, ac Ôl-ddiwydiannol – ond yn fwy na dim, byddwch chi’n ymgolli ym mhresenoldeb byw Marina wrth i’w hegni llawn hwyl ac anhrefn gyffwrdd â phawb sy’n gwylio. Peidiwch â cholli ymweliad Marina â Chymru – Sŵn fydd un o’i pherfformiadau cyntaf yng ngwledydd Prydain, felly bydd hon yn set fawr i 3L3D3P a’r ŵyl ei hunan.
