Amdan swn

Gwyl gerddorol aml-leoliad wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd yw Sŵn sydd wedi bod yn rhedeg ers 2007. Ers sefydlu’r wyl, mae Sŵn wedi bod yn canolbwyntio ar gerddoriaeth ag artistiaid newydd a lleol.

Drwy ddewis ein hoff leoliadau ar draws y ddinas ag artistiaid newydd, adfywiol sy’n cyffroi ni a chi, am 3 diwrnod, mae Caerdydd yn trawsnewid i fod yn ganolbwynt i ffanatigs a crewyr cerddorol, lle mae modd crwydro’r ddinas hynod yma a darganfod cerddoriaeth rhyfeddol.

Nid yw’r wyl yn gyfyngedig i un steil o gerddoriaeth. Mi rydym ni’n bwcio artistiaid sy’n cyffroi ni ag yn gobeithio eu bod nhw’n cyffroi chi hefyd.

Ewch i wrando ar yr artistiaid fydd yn chwarae’r wyl eleni drwy ddilyn y playlist yma.

Dyma ffyrdd i chi allu cadw mewn cysylltiad gyda ni:

Mi fyddwn ni hefyd yn postio newyddion, tips yr wyl ag unrhyw ddiweddariadau ar ein digwyddiad Facebook.

Welwn ni chi yn mis Hydref!