Adwaith

Adwaith

Pryd

Sul 23.10.22

Ble

The Moon

O ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019 gyda pherl o albwm gyntaf Melyn, i gefnogi IDLES yn Arena Motorpoint Caerdydd, mae Adwaith wedi dangos bod dim stop arnyn nhw bellach. Sŵn heulog a hudolus sy’n ffrwydro gyda ffrets gitâr syrffio, harmonïau goruwchnaturiol, a drymiau sy’n hypnoteiddio ac yn ein tywys i’w gwe sidanaidd o bryder indi; mae’r triawd ôl-pync yn llais i’w cenhedlaeth, gan godi llais ar ran pobl ifanc rhwystredig Cymru. Ym mis Gorffennaf eleni, dychwelodd Adwaith gydag albwm ddilynol a thrac sain hyfryd ar gyfer yr haf, Bato Mato.