CYHOEDDI TON ARALL O 52 O ARTISTIAID, BANDIAU FESUL DYDD, A MWY YN SŴN 2024

Rydyn ni wrth ein boddau o gael croesawu 52 o artistiaid ychwanegol i raglen Sŵn 2024. Mae’r ddeuawd bync o Brighton, Lambrini Girls, yn dod i Gaerdydd yn yr hydref gyda’u dadansoddiadau brathog tafod-yn-y-boch o faterion cymdeithasol tanbaid. Mae eu sengl daranllyd ddiweddar ‘God’s Country’ wedi arwain at ganmoliaeth i’r band ym mhobman, ar BBC Radio 1, 6 Music ac NME yn ogystal â rhannu clawr cylchgrawn Kerrang! Ac yntau newydd ryddhau ei albwm unigol ddiweddaraf, Strange Dance, a ryddhawyd y llynedd ar Bella Union ac sydd wedi cael sylw eang, mae drymiwr Radiohead, Philip Selway, yn dod â’i waith unigol dramatig a hyfryd i’r ŵyl eleni. Yn un o enwau newydd mwyaf cyffrous a dirgel y sîn fyw ym Mhrydain, mae HONESTY o Leeds yn cynhyrchu gwledd sainweledol sy’n cymysgu’r digidol a’r analog, deunydd wedi’i ganfod, a thriniaeth AI. 

Yn fwy lleol, mae gŵyl eleni’n cynnig tapestri cyfoethog o ddoniau o Gymru, o seinweddau ethereal a rhythmau jazz Talulah, i alawon melancolaidd Hyll a cherddoriaeth werin draddodiadol Mari Mathias. Bydd y pedwarawd roc-jangl The Tubs, sy’n dod o Gymru ond yn byw yn Llundain, yn chwistrellu ôl-pync i’w sain, tra bydd triawd pync Caerdydd, SHLUG, yn deffro cynulleidfaoedd gyda’u perfformiad egni uchel.

Am y tro cyntaf ers y pandemig, bydd yr ŵyl eleni’n aml-safle dros y tridiau, gan sicrhau gwledd fwy fyth i’r carwr cerddoriaeth newydd brwd. Ddydd Iau, 17 Hydref, bydd Sŵn yn llenwi Stryd Womanby gyda phum llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach, Tiny Rebel, The Moon, a Fuel. Ddydd Gwener 18 Hydref a dydd Sadwrn 19 Hydref, bydd yr ŵyl yn ehangu am allan ar draws canol y brifddinas, gyda llwyfannau ychwanegol yn Tramshed, Jacobs’s Antique Market, Cornerstone a Porter’s (dydd Sadwrn yn unig), gyda mwy o leoliadau’n cael eu cyhoeddi’n fuan.

Mae enwau fesul diwrnod yr ŵyl wedi’u cyhoeddi heddiw, ochr yn ochr â thocynnau dydd yn mynd ar werth. Mae tocynnau penwythnos llawn yn dal i fod ar werth, gyda chynlluniau rhandaliadau ar gael.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn cydweithio eleni gyda’r cylchgrawn cerddoriaeth DIY, cylchgrawn print cerddoriaeth a diwylliant Caerdydd, Radar, noson glwb tecno cwiar CINC, a’r platfform cerddoriaeth Gymraeg KLUST i gyd-gyflwyno llwyfannau eleni.