
Gan uno dylanwadau amgen traddodiadol gyda thro emo modern, mae Keo eisoes wedi adeiladu cwlt o ddilynwyr ar y rhyngrwyd ac wedi profi eu gallu i greu anthemau gyda’u senglau cyntaf “I Lied, Amber” a “Thorn”. Mae eu steil grefftus a’u presenoldeb grynj ar y llwyfan yn awgrymu mai dyma fydd y “Band Mawr Nesaf”, ac mae eu set fyw yn dangos hynny, yn llawn dicter a phryder sy’n cael ei arllwys i 45 munud tynn. Bydd ymddangosiad cyntaf y Llundeinwyr yng Nghaerdydd yn ffrwydrol ac yn brysur; dewch lawr yn ddigon cynnar.
